Anhwylder personoliaeth
Personality disorder
Below is a Welsh translation of our information resource on personality disorder. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd ? phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r wybodaeth hon yn trafod ystyr y term anhwylder personoliaeth. Mae'n ymdrin ?'r mathau o anawsterau y mae pobl sydd wedi cael diagnosis o¡¯r cyflwr yn eu hwynebu a'r cymorth a all fod ar gael. Mae hefyd yn trafod sut y gallwch chi gefnogi rhywun rydych chi'n ei adnabod sydd wedi cael diagnosis o¡¯r cyflwr.
¡°Chwe blynedd yn ?l doedd gen i mo¡¯r geiriau i egluro fy mod i mewn gofid nac i fynegi fy nheimladau, ac mae hynny¡¯n rhywbeth y mae fy nhriniaeth wedi ei roi i mi. Ydi, mae hynny'n golygu fy mod i¡¯n dal i fynd yn ofidus. Dw i¡¯n dal i brofi¡¯r pethau hynny, ond nawr mae gen i¡¯r geiriau i gyfleu fy ngofid.¡± Ellie
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Ãâ·ÑºÚÁÏÍø) wedi dechrau darn o waith er mwyn deall yn well:
- sut mae pobl yn cael eu heffeithio gan y diagnosis hwn
- yr effaith y gall y diagnosis ei chael ar ansawdd eu gofal a'u bywydau
- y niwed a achosir gan stereoteipiau negyddol, rhagfarn a gwahaniaethu
- rhwystrau i gael mynediad at ofal iechyd a mathau eraill o gymorth.
Bydd gwybodaeth ar ein gwefan yn parhau i ddatblygu yn sgil y gwaith hwn. Bydd mewnwelediad a phrofiadau cleifion, teuluoedd a gofalwyr yn rhan bwysig o hyn.
Mae cleifion a gofalwyr hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu'r wybodaeth isod. Mae wedi cael ei hysgrifennu gyda phobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth a'r bobl sy'n eu hadnabod orau. Mae¡¯r wybodaeth hon yn amlinellu:
- y farn bresennol am y mathau o anawsterau y mae pobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth yn eu hwynebu
- pam mae'r anawsterau hyn yn datblygu
- y mathau o gymorth a allai fod ar gael i bobl sydd wedi cael diagnosis o¡¯r cyflwr hwn
- sut y gallai ffrindiau a theulu gefnogi rhywun sydd ? phroblemau personoliaeth neu sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth.
Mae llawer o resymau pam mae anhwylder personoliaeth yn ddiagnosis dadleuol. Fodd bynnag, rydyn ni eisiau darparu gwybodaeth i'r rhai sydd wedi cael y diagnosis hwn.
Mae gan bob un ohonon ni batrymau gwahanol o feddwl, teimlo ac ymddwyn y gellir eu disgrifio fel nodweddion personoliaeth. Er enghraifft, gellir disgrifio un person fel rhywun ¡®ffyslyd¡¯, ¡®creadigol¡¯ a ¡®tawel¡¯. Gellir disgrifio person arall fel rhywun ¡®hamddenol¡¯, ¡®hyderus¡¯ ac ¡®anghofus¡¯. Byddem yn disgrifio¡¯r bobl hyn fel rhai sydd ? ¡®phersonoliaethau¡¯ gwahanol.
Mae personoliaeth pawb yn unigryw. Mae ein personoliaethau yn cael eu siapio gan y byd o'n cwmpas, ond maen nhw hefyd yn siapio'r ffordd rydyn ni¡¯n edrych ar y byd. Maen nhw'n effeithio ar sut rydyn ni'n ymddwyn ac yn meddwl, ar beth rydyn ni'n ei gredu a sut rydyn ni'n ymwneud ag eraill.
Gall sut mae ein personoliaethau¡¯n datblygu gael ei ddylanwadu¡¯n gryf gan ein:
- plentyndod
- amgylcheddau
- profiadau bywyd cynnar.
I rai pobl mae rhai o'r profiadau cynnar hyn yn anodd neu'n drawmatig. Gall hyn effeithio ymhellach ar sut mae eu personoliaethau'n datblygu.
Mae nodweddion personoliaeth pawb yn bodoli ar raddfa. Er enghraifft, rydyn ni i gyd yn teimlo'n emosiynol, yn mynd yn genfigennus, neu eisiau cael ein hoffi gan eraill ar adegau. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn teimlo'r pethau hyn yn fwy dwys nag eraill.
Mae cael gwybod bod gennych chi ¡®anhwylder¡¯ personoliaeth yn gallu peri gofid a loes. Ond nid yw'n golygu bod rhywbeth o'i le ar bwy ydych chi.
Mae anhwylder personoliaeth yn ddiagnosis y gellir ei roi i bobl sydd ? nodweddion personoliaeth:
- sy¡¯n ei gwneud yn hynod o anodd iddyn nhw reoli eu hemosiynau a'u teimladau amdanyn nhw eu hunain, am eraill ac am y byd o'u cwmpas
- sy¡¯n golygu eu bod yn cael problemau sylweddol o ran ymdopi o ddydd i ddydd, ac yn eu perthnasoedd.
Pam mae angen gwneud diagnosis?
Er mwyn gwneud diagnosis bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn darganfod pa broblemau y mae rhywun yn eu cael trwy edrych ar:
- y symptomau y mae¡¯n eu profi
- ac anawsterau eraill y gallai fod yn eu profi.
Diagnosis yw'r enw a roddir i'r problemau. Ar sail y diagnosis hwn mae'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gallu sicrhau bod y person yn cael gofal a thriniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac y dangoswyd ei fod yn effeithiol trwy ymchwil ac ymarfer clinigol.
Rydyn ni'n deall terfynau diagnosis anhwylder personoliaeth. Fodd bynnag, rydyn ni'n ei drafod yn yr adnodd hwn oherwydd ein bod yn gwybod ei fod yn caniat¨¢u i feddygon gyfeirio pobl at fathau penodol o gymorth a thriniaeth sy¡¯n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hefyd yn galluogi pobl i gael mynediad at y gwasanaethau sy'n iawn iddyn nhw. Heb ddiagnosis, ni fyddai hyn yn bosibl.
Mae diagnosis hefyd yn helpu i ddatblygu triniaethau newydd. Er enghraifft, mae rhai therap?au siarad wedi cael eu datblygu i drin pobl sydd ? rhai mathau o ddiagnosis.
Byddai llawer o bobl yn hoffi i anhwylder personoliaeth gael enw newydd.
Mae llawer o bobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth wedi profi trawma yn y gorffennol. Oherwydd hyn, i rai pobl mae'n fwy derbyniol disgrifio'r anawsterau y maen nhw'n eu profi fel anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD cymhleth). Mae PTSD cymhleth yn ddiagnosis meddygol ar wah?n. Mae'n bosibl i rywun gael diagnosis o PTSD cymhleth ac anhwylder personoliaeth.
I rai pobl mae'n fwy priodol disgrifio¡¯r anawsterau hyn fel ¡®anghenion emosiynol cymhleth¡¯, yn enwedig os nad ydyn nhw'n ystyried eu bod wedi cael profiadau bywyd trawmatig.
Bydd yr adnodd hwn yn defnyddio'r term anhwylder personoliaeth. Mae hyn oherwydd mai dyma'r term a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y mwyafrif o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Hwn hefyd yw'r term sydd fwyaf cyfarwydd i'r cyhoedd. Dim ond wrth gyfeirio at ymchwil y byddwn ni'n defnyddio termau eraill, megis anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), yn ddiweddarach yn yr adnodd hwn.Fel gyda'r rhan fwyaf o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol, mae sut y caiff anhwylder personoliaeth ei ddisgrifio wedi newid dros amser. Mae'n debyg y bydd y geiriau a ddefnyddir i egluro'r heriau y mae anhwylder personoliaeth yn eu disgrifio yn dal i newid.
Hyd at 2019, roedd anhwylderau personoliaeth yn cael eu rhannu i'r 10 categori canlynol. Bellach, ystyrir bod rhai o'r termau hyn yn creu stigma. Fodd bynnag, mae gwasanaethau a chlinigwyr yn dal i'w defnyddio o bryd i'w gilydd:
- Paranoid
- Sgitsoid
- Sgitsoteip
- Histrionig
- Narsisaidd
- Gwrthgymdeithasol
- Ffiniol
- Obsesiynol cymhellol
- Osgoilyd
- Dibynnol
O'r rhain, anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) oedd y mwyaf cyffredin o'r anhwylderau personoliaeth i gael eu diagnosio yn y DU. Mae BPD hefyd yn cael ei alw'n anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog (EUPD). Anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol oedd yr ail mwyaf cyffredin o'r anhwylderau personoliaeth i gael eu diagnosio yn y DU.
Heddiw, mae anhwylderau personoliaeth yn cael eu trefnu yn ?l difrifoldeb a sut mae unigolyn yn dangos un neu fwy o bum nodwedd personoliaeth. Cafodd y dosbarthiad newydd hwn ar gyfer anhwylderau personoliaeth ei sefydlu yn y gobaith y byddai'n llai caeth ac yn creu llai o stigma.
Nodwedd personoliaeth | Disgrifiad |
Affeithioldeb negyddol |
|
Datgysylltiad |
|
Gwrthgymdeithasol |
|
Byrbwylltra |
|
Anankastia |
|
Difrifoldeb y problemau | Disgrifiad |
Anhawster personoliaeth | Nid yw hwn yn ddiagnosis o anhwylder personoliaeth. Mae¡¯n golygu y gallai fod gennych chi rai o¡¯r nodweddion a ddisgrifir uchod. |
Anhwylder personoliaeth ysgafn | Mae hyn yn golygu y gallech chi wynebu heriau yn ymwneud ? rhai o'r nodweddion a ddisgrifir uchod yn eich bywyd personol a chymdeithasol neu yn eich gwaith. |
Anhwylder personoliaeth cymedrol | Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n wynebu heriau sy'n gysylltiedig ? rhai o'r nodweddion a ddisgrifir uchod yn eich bywyd personol a chymdeithasol ac yn eich gwaith. Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd gweithredu'n effeithiol. |
Anhwylder personoliaeth difrifol | Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n wynebu heriau difrifol yn ymwneud ? rhai o'r nodweddion a ddisgrifir uchod ym mhob rhan o'ch bywyd. Efallai eich bod mewn perygl o niweidio eich hun neu rywun arall. |
Gan ddefnyddio'r meini prawf newydd hyn, efallai y bydd rhywun, er enghraifft, yn cael diagnosis o:
¡®Anhwylder personoliaeth cymedrol gyda nodweddion affeithioldeb ²Ô±ð²µ²â»å»å´Ç±ô.¡¯
Gallai¡¯r person sy¡¯n gwneud y diagnosis hefyd ychwanegu ¡®patrwm ffiniol¡¯ at y diagnosis hwn. Caiff hwn ei ddefnyddio i ddangos y gallai rhywun gael budd o'r triniaethau sydd, yn unol ag ymchwil, yn gweithio'n dda i bobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol yn y gorffennol.
Mae gan y rhan fwyaf o bobl nodweddion personoliaeth sy'n gallu achosi problemau iddyn nhw o bryd i'w gilydd. Nid yw hyn yn golygu y bydden nhw'n cael diagnosis o anhwylder personoliaeth. Er enghraifft, mae llawer ohonon ni'n teimlo ein bod yn cael ein gwrthod yn hawdd neu¡¯n ymddwyn mewn ffyrdd y mae pobl eraill yn eu hystyried yn ¡®ecsentrig¡¯. Fodd bynnag, gellir ystyried diagnosis o anhwylder personoliaeth os bydd y profiadau hyn:
- yn dechrau achosi gofid sylweddol i rywun neu
- yn ymyrryd ?'i allu i fyw ei fywyd.
Teimladau ynghylch diagnosis
Bydd sut mae pobl yn teimlo ynghylch cael diagnosis o anhwylder personoliaeth yn dibynnu ar a yw cael y diagnosis wedi eu helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw neu wedi gwneud hynny'n fwy anodd. Gall hefyd gael ei effeithio¡¯n fawr gan eu profiadau o:
- ragfarn
- gwahaniaethu
- ac allg¨¢u ar sail y diagnosis.
Gall gweithwyr proffesiynol helpu i gefnogi rhywun sy¡¯n cael diagnosis drwy:
- gymryd y pethau hyn i ystyriaeth
- archwilio diagnosau eraill
- gwneud amser ar gyfer cwnsela diagnostig.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod y gall rhai o'r nodweddion a all arwain at ddiagnosis o anhwylder personoliaeth gael eu hystyried yn gryfderau hefyd. Mae rhai pobl yn teimlo bod eu profiadau yn eu gwneud yn:
- greadigol
- penderfynol
- hyblyg
- sensitif i deimladau pobl eraill.
Gall pobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth hefyd fod yn hynod o angerddol am bethau y maen nhw'n teimlo sy'n bwysig. Gallant ddefnyddio'r angerdd hwn i gael effaith gadarnhaol ar y byd o'u cwmpas.
¡°I mi, mae bod yn hynod sensitif i emosiynau pobl eraill yn gallu fy ngwneud i'n empathetig iawn ac yn dda am ddeall teimladau pobl eraill.¡± Ellie
Beth os cafodd fy niagnosis ei wneud ar sail yr hen gategor?au?
Dros amser bydd y categor?au newydd yn dechrau cael eu defnyddio yn eu lle. Nid yw'r categor?au newydd hyn yn cyfateb yn union i'r hen gategor?au.
Er enghraifft, os cafodd rhywun ddiagnosis o ¡®anhwylder personoliaeth paranoid¡¯ o'r blaen, nid oes un o¡¯r pum nodwedd personoliaeth newydd sy¡¯n ¡®cydweddu¡¯ ?¡¯r hen ddiagnosis hwn.
Fodd bynnag, bellach gellir defnyddio cyfuniad o'r pum nodwedd personoliaeth i ddisgrifio'r anawsterau a allai fod wedi arwain at ddiagnosis o anhwylder personoliaeth paranoid.
Amcangyfrifir bod gan tua 4.4% o bobl yn y DU anhwylder personoliaeth y gellir ei ddiagnosio. Mae hyn yn golygu nad oes ganddyn nhw ddiagnosis o reidrwydd, ond gallen nhw fodloni meini prawf diagnosis o anhwylder personoliaeth pe baen nhw'n cael eu hasesu.
Profiadau bywyd
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) yn brofiadau anodd sy¡¯n digwydd yn ystod plentyndod. Maen nhw'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- profi camdriniaeth neu esgeulustod
- byw gyda rhywun sydd ag anhwylder defnyddio sylweddau
- dod i gysylltiad ? thrais domestig
- byw gyda rhywun sydd ? salwch meddwl difrifol
- marwolaeth rhiant neu golli rhiant mewn rhyw ffordd arall.
Nid yw ACE yn golygu y bydd rhywun yn bendant yn mynd ymlaen i gael diagnosis o anhwylder personoliaeth neu unrhyw gyflwr arall. Fodd bynnag, mae cysylltiad cryf rhwng anhwylder personoliaeth ac ACE.
Mae plant yn ymddiried yn ac yn dibynnu ar eu prif ofalwyr (rhieni neu warcheidwaid) i'w hamddiffyn a gofalu amdanyn nhw. Os cawsoch chi eich cam-drin, eich esgeuluso neu eich trin yn wael fel plentyn gan ofalwr sylfaenol, gallai hynny effeithio ar y ffordd rydych chi'n profi perthnasoedd fel oedolyn.
Mae rhai astudiaethau hefyd yn edrych ar ¡®amgylcheddau cymunedol niweidiol¡¯. Mae¡¯r rhain yn cynnwys pethau fel:
- tlodi
- gwahaniaethu
- diffyg cyfleoedd
- tai gwael.
Bydd rhai pobl yn profi cyfuniad o'r ffactorau hyn.
Mae nifer enfawr o ddigwyddiadau bywyd a all fod yn anodd i bobl. Mae profiadau sydd ddim yn cael eu crybwyll yma hefyd yn gallu cael effaith ddofn ar fywyd rhywun ac ar ddatblygiad eu personoliaeth.
Gall profiadau yn ddiweddarach mewn bywyd hefyd achosi i'r mathau o anawsterau sy'n gysylltiedig ag anhwylder personoliaeth ddod yn fwy amlwg. Er enghraifft:
- salwch corfforol
- perthynas yn chwalu
- profi gwrthdaro.
Geneteg
Nid yw'n glir sut mae geneteg yn gysylltiedig ag anhwylderau personoliaeth. Mae'r cydbwysedd rhwng profiadau bywyd a geneteg yn gymhleth iawn.
Nid oes ¡®genyn anhwylder personoliaeth¡¯. Fodd bynnag, mae rhai academyddion yn meddwl bod geneteg yn chwarae rhan yn y ffordd y mae profiadau anodd yn effeithio ar wahanol bobl.
Mae llawer o wahanol lwybrau sy'n arwain at bobl yn cael diagnosis ac yn cael cymorth ar gyfer anhwylder personoliaeth. Bydd hyn yn dibynnu ar:
- sut rydych chi'n ymdopi a pham wnaethoch chi geisio cymorth
- unrhyw broblemau cymdeithasol neu broblemau iechyd y gallech chi fod yn eu hwynebu eisoes
- ble rydych chi'n byw a'r gwasanaethau sydd ar gael i chi.
Os ydych chi'n cael trafferth gyda rhai o'r materion a ddisgrifiwyd yn gynharach yn yr adnodd hwn, efallai y cewch chi gynnig asesiad gyda'ch gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol.
Cael asesiad
Os fyddwch chi'n cael asesiad, dylech gael eich holi ynghylch:
- eich sefyllfa fyw, cyflogaeth a pherthnasoedd
- eich meddyliau a¡¯ch teimladau
- unrhyw ymddygiadau niweidiol rydych chi eisiau rhoi sylw iddyn nhw
- unrhyw heriau rydych chi wedi'u hwynebu o ran cael cymorth yn y gorffennol
- beth sydd wedi gweithio'n dda i chi ac wedi eich helpu i ymdopi yn y gorffennol.
Gellir ystyried diagnosis o anhwylder personoliaeth fel rhan o'r asesiad hwn. Bydd deall stori rhywun a¡¯r anawsterau y gallai fod wedi¡¯u profi o ran cael y cymorth sydd ei angen arno yn ei gwneud yn haws i¡¯r t?m wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Dylid ystyried yn ofalus wrth wneud diagnosis o anhwylder personoliaeth. Dylai'r diagnosis hwn gael ei wneud drwy gytundeb ar y cyd rhwng y sawl sy'n gwneud y diagnosis a'r person sy'n ei gael.
Yn ystod yr asesiad ac mewn apwyntiadau yn y dyfodol efallai y byddwch chi'n archwilio opsiynau cymorth gwahanol, fel:
- hunangymorth
- therap?au seicolegol
- gofal cymdeithasol
- cymorth gydag addysg, hyfforddiant neu waith
- meddyginiaeth
- gofal iechyd corfforol
- cefnogaeth gan gymheiriaid.
Dylai¡¯r person sy¡¯n eich asesu weithio gyda chi i ddatblygu 'cynllun gofal', sef cynllun ar gyfer eich triniaeth a¡¯ch gofal. Dylai'r cynllun hwn hefyd eich helpu i ymdopi'n well ag unrhyw anawsterau rhwng apwyntiadau. Cyfeirir at hwn weithiau fel ¡®cynllun argyfwng wrth gefn¡¯.
Os byddwch chi'n cael diagnosis o anhwylder personoliaeth
Er mwyn i ddiagnosis o anhwylder personoliaeth fod yn ddefnyddiol, dylid ei wneud mewn ffordd gydweithredol rhyngoch chi a'ch clinigydd. Mae hyn yn golygu y dylai¡¯r clinigydd egluro:
- pam ei fod yn meddwl y gallai'r diagnosis hwn fod yn ddefnyddiol
- beth mae'n ei olygu
- pa gymorth sydd ar gael ar gyfer y problemau rydych chi'n eu cael.
Dysgu mwy am eich diagnosis
Wrth ddysgu mwy am eich diagnosis, canolbwyntiwch ar ffynonellau gwybodaeth sydd:
- yn ddibynadwy
- yn seiliedig ar dystiolaeth
- ac yn ddiweddar.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol hefyd i chi gael gwybodaeth gan:
- elusennau sy'n gweithio gyda, ac ar ran, pobl sydd ? salwch meddwl
- pobl eraill sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth.
Mae gan Golegau Adfer grwpiau lle rydych chi'n gallu cyfarfod a siarad mewn amgylchedd cytbwys ? phobl eraill sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol ac ymarferwyr profiad bywyd.
Mae ffynonellau defnyddiol eraill o wybodaeth a chymorth ar gael ar ddiwedd yr adnodd hwn.
Beth os ydw i'n anghytuno ? fy niagnosis?
Dim ond ar ?l asesiad trylwyr gan rywun sydd ?'r sgiliau a'r wybodaeth briodol y dylid gwneud diagnosis o anhwylder personoliaeth. Nid yw¡¯n ddiagnosis y dylid ei wneud yn gyflym, neu heb ystyriaeth ofalus.
Os ydych chi wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth ac yn teimlo nad yw'n cynrychioli eich profiadau chi, gofynnwch am apwyntiad gyda'ch seiciatrydd i'w adolygu. Os nad oes gennych chi seiciatrydd, gallwch ofyn i¡¯ch meddyg teulu wneud cais am asesiad gan seiciatrydd.
Os yw eich seiciatrydd wedi gwneud y diagnosis a dydych chi ddim yn si?r amdano, gallwch ofyn i seiciatrydd arall am ail farn. Fel arfer mae gan ymddiriedolaethau'r GIG system ar gyfer darparu hyn. Gallech hefyd ofyn i'ch meddyg teulu wneud cais am ail farn i chi. Nid oes gennych chi hawl gyfreithiol i gael ail farn, ond fel arfer mae'n bosibl cael un.
A yw¡¯n bosibl i rywun gael diagnosis o anhwylder personoliaeth a chyflwr arall?
Mae¡¯n bosibl i rywun gael diagnosis o anhwylder personoliaeth, a diagnosis o un neu fwy o afiechydon meddwl. Mae rhai pobl yn cael diagnosis o afiechydon meddwl eraill i ddechrau cyn y canfyddir bod diagnosis o anhwylder personoliaeth yn disgrifio eu hanawsterau yn well. Gall y gwrthwyneb ddigwydd hefyd.
Gyda'r cymorth a'r gefnogaeth cywir, gall pobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth wella a byw bywydau llawn. Gallant hefyd ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi ? rhai o'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai pobl yn profi anawsterau mwy parhaus.
Bydd y mathau o driniaeth a gewch chi yn dibynnu ar:
- beth sydd ei angen arnoch chi
- beth rydych chi ei eisiau
- beth fydd o gymorth i chi
- beth sydd ar gael i chi
- beth sy'n ddiogel i chi gymryd rhan ynddo ac a ydych chi'n ymgymryd ag unrhyw ymddygiadau risg uchel.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael triniaeth gan wasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Mae gan rai gwasanaethau wasanaeth anhwylderau personoliaeth penodedig. Mae gwasanaethau eraill yn cydweithio'n agos ag adran seicotherapi.
Yn dibynnu ar lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, efallai y byddwch chi'n cael cymorth a chefnogaeth gan:
- seiciatryddion
- seicolegwyr
- nyrsys
- therapyddion galwedigaethol
- gweithwyr cymdeithasol
- ymarferwyr profiad bywyd (a elwir hefyd yn weithwyr cymorth cymheiriaid)
- gweithwyr cymorth.
Gall pob un o'r bobl hyn helpu i'ch cefnogi chi gyda gwahanol rannau o'ch bywyd.
Pa fath o gefnogaeth ddylwn i ei gael?
Mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil i driniaethau ar gyfer anhwylder personoliaeth yn canolbwyntio ar beth a arferai gael ei alw'n anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD). Mae hyn yn rhannol oherwydd bod pobl sydd ? phroblemau sy'n gysylltiedig ? BPD yn fwy tebygol o brofi gofid a cheisio cymorth.
Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd cynnig gwybodaeth am driniaethau ar gyfer mathau eraill o anhwylder personoliaeth yn yr adnodd hwn. Ond nid yw hyn yn golygu na fydd y triniaethau hyn yn gweithio i chi. Dylai'r driniaeth a gewch chi fod yn seiliedig ar:
- eich anghenion unigol
- yr heriau rydych chi¡¯n eu hwynebu.
Byddwn yn trafod BPD yn yr adran ganlynol sy'n ymwneud ag ymchwil i wahanol driniaethau.
Llunio datganiad
Mae diagnosis yn ffordd o ddisgrifio'r heriau y mae rhywun yn eu hwynebu. Mae datganiad yn ffordd o ddeall ¡®darlun llawn¡¯ y person.
Os oes gennych chi ddiagnosis o anhwylder personoliaeth, gall datganiad helpu'r bobl sy'n eich cefnogi i ddeall beth sy'n digwydd yn eich bywyd a'ch perthnasoedd. Gyda'ch gilydd gallwch ei ddefnyddio i ddeall pa help sydd ei angen arnoch chi.
Mae gwahanol ffyrdd o lunio datganiad, ond yn gyffredinol mae datganiadau yn edrych ar:
- Yr heriau rydych chi'n eu hwynebu nawr a sut maen nhw'n effeithio arnoch chi.
- Pam y daeth yr heriau hyn i fodolaeth ¨C Er enghraifft, ffactorau yn eich bywyd a allai fod wedi effeithio arnoch chi, bygythiadau rydych chi wedi'u hwynebu a sut roeddech chi'n eu deall.
- ¨C Er enghraifft, sut y gallai dulliau ymdopi effeithio ar eich cynnydd. Neu sut y gallai anawsterau eraill yn eich bywyd achosi i'r problemau barhau.
- Eich cryfderau ¨C Er enghraifft, perthnasoedd cefnogol, sgiliau a systemau cred.
Byddwch yn defnyddio¡¯r pethau hyn i:
- ddeall eich sefyllfa yn well
- gwneud mwy o synnwyr o¡¯r anawsterau rydych chi¡¯n eu hwynebu
- ystyried sut y gallwch chi ymateb i sefyllfaoedd anodd mewn ffyrdd mwy buddiol.
Therap?au seicolegol
Caiff llawer o wahanol therap?au seicolegol eu defnyddio i helpu pobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth. Bydd y math o therapi seicolegol a gewch chi, pa mor aml y byddwch yn ei gael, a pha mor hir y byddwch chi'n ei gael yn dibynnu ar eich sefyllfa unigryw chi a beth sydd ar gael yn lleol.
Mae¡¯n eithaf tebygol y bydd yn rhaid ichi aros i gael therapi seicolegol, sy'n gallu eich gwneud yn rhwystredig iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch chi'n dymuno paratoi fel y gall y therapi seicolegol gael ei wneud mor ddiogel ? phosibl a chael mwy o effaith. Er enghraifft, os oes gennych chi anghenion o ran tai, efallai y bydd angen mynd i¡¯r afael ?¡¯r rhain cyn i chi ddechrau cael therapi seicolegol er mwyn i¡¯r therapi fod o gymorth.
Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT)
Mae DBT wedi¡¯i anelu at bobl sydd wedi cael diagnosis o BPD ac sy¡¯n hunan-niweidio, neu sydd wedi ceisio lladd eu hunain.
Mewn DBT mae ymddygiad hunan-niweidiol yn cael ei ddeall fel rhywbeth y mae pobl yn ei ddefnyddio i reoli emosiynau anodd. Gelwir hyn hefyd yn hunan-reoleiddio. Mae agwedd niweidiol a hefyd agwedd defnyddiol i'r ymddygiadau hyn.
Gall DBT eich helpu i ddatblygu ymddygiadau gwahanol. Gall y rhain naill ai rwystro emosiynau anodd rhag cronni neu eich helpu i ymdopi ? nhw mewn ffordd fwy diogel.
Mae DBT yn defnyddio egwyddorion therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) ac ymwybyddiaeth ofalgar. Pan fyddwch chi'n cael DBT bydd eich therapydd yn eich helpu i:
- ddechrau trwy adnabod ac anelu at leihau ymddygiadau hunan-niweidiol
- yna ceisio lleihau ymddygiadau eraill a allai ymyrryd ?'ch therapi
- yn olaf, ceisio lleihau ymddygiadau a allai ymyrryd ag ansawdd eich bywyd.
Mae DBT yn cynnwys pedair elfen:
- Goddef trallod neu ofid ¨C Mae hyn yn golygu dysgu sut i drin poen a gofid mewn ffyrdd sy'n ddefnyddiol.
- Rheoleiddio emosiynol ¨C Mae hyn yn golygu adnabod eich teimladau a deall pam eu bod yn digwydd.
- Effeithiolrwydd rhyngbersonol ¨C Mae hyn yn golygu:
- adeiladu a chynnal perthnasoedd
- datrys gwrthdaro
- a chael diwallu eich dymuniadau a¡¯ch anghenion.
- Ymwybyddiaeth ofalgar ¨C Mae hyn yn golygu dod yn ymwybodol o'ch meddyliau a'ch teimladau mewn ffordd anfeirniadol.
Mae DBT yn gyfuniad o sesiynau gr?p a sesiynau unigol. Byddwch yn cael un sesiwn gr?p ac un sesiwn unigol yr wythnos am 12 mis. Os yw eich ymddygiadau niweidiol yn llai difrifol, efallai y byddwch chi'n cael DBT am chwe mis yn unig fel rhan o raglen driniaeth a gofal ehangach.
Gallwch hefyd gael mynediad at ddeunyddiau hunangymorth a llyfrau gwaith ar gyfer DBT ar-lein.
Therapi Seiliedig ar Feddwl (MBT)
Mae MBT wedi'i anelu at bobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD). Mae¡¯n ceisio helpu pobl sydd ? diagnosis o BPD i:
- wneud cysylltiadau personol
- a deall meddyliau, teimladau a dymuniadau eu hunain a phobl eraill.
Mae MBT yn eich annog i archwilio sut rydych chi'n meddwl ac yn teimlo amdanoch chi'ch hun ac eraill, a sut mae hyn yn effeithio ar sut rydych chi'n ymddwyn. Gellir darparu MBT mewn sesiynau unigol ac mewn sesiynau gr?p, ac argymhellir cwrs 18 mis.
Therapi Sgema (SFT)
Mae SFT yn canolbwyntio ar y syniad bod gan bawb batrymau meddwl negyddol (a elwir yn sgem?u). Caiff y rhain eu dysgu yn ystod plentyndod cynnar, a gall wynebu adfyd yn gynnar olygu eu bod yn fwy tebygol o ddatblygu. Sail SFT yw bod y sgem?u hyn yn achosi i ni droi at ffyrdd o feddwl ac ymddwyn sydd ddim yn iach.
Pan fyddwch chi¡¯n cael SFT byddwch yn canolbwyntio ar ddarganfod eich sgem?u chi trwy eu cysylltu ? digwyddiadau'r gorffennol a'r presennol. Byddwch yn gweithio i ddatblygu ymatebion iachach i'r sgem?u hyn.
Therapi seicodynamig
Sail therapi seicodynamig yw'r syniad bod rhan o'n meddwl yn anymwybodol. Mae hwn yn cynnwys teimladau pwerus a ffantas?au sy'n llywio:
- ein perthnasoedd
- sut rydyn ni¡¯n gweld ein hunain a'n lle yn y byd.
Mae'r rhain yn cael eu heffeithio'n sylweddol gan ein profiadau cynnar mewn bywyd.
Mewn therapi seicodynamig mae therapyddion yn gweithio i ddeall:
- sut mae eich gorffennol wedi effeithio arnoch chi
- sut y gall meddyliau a theimladau anymwybodol gael effaith ar eich meddyliau, eich ymddygiad a'ch perthnasoedd.
Mae therapi seicodynamig yn derm sy'n cynnwys nifer o wahanol therap?au sydd ag arferion tebyg. Bydd sut y caiff therapi seicodynamig ei ddarparu yn amrywio'n fawr rhwng therapyddion.
Seicotherapi gr?p
Gellir darparu y rhan fwyaf o therap?au mewn grwpiau. Gall therapi gr?p gynnig profiad o gael eich derbyn a'ch deall gan eraill. Gall hefyd gynnig cyfle i chi gyfathrebu ag eraill sydd ? phrofiadau tebyg. Gall fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer dysgu sut i ddatblygu perthnasoedd iach, ac ymdeimlad o berthyn, p?er a galluogedd.
Therapi celf
Mewn therapi celf byddwch yn defnyddio technegau creadigol fel peintio neu gerflunio i'ch helpu i fynegi eich hun. Defnyddir therapi celf mewn rhai gwasanaethau anhwylderau personoliaeth arbenigol ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl ehangach. Bydd therapi celf yn aml yn defnyddio technegau therap?au eraill, megis therapi seicodynamig, MBT a DBT.
Mae mathau eraill o therapi celf, sy'n defnyddio drama neu gerddoriaeth, yn gweithio mewn ffordd debyg ond maen nhw'n llai cyffredin.
Cymunedau therapiwtig
Mae cymunedau therapiwtig yn fath o wasanaeth, yn hytrach na math o therapi. Gall y gwasanaethau hyn ddefnyddio technegau therapi fel therapi seicodynamig, DBT neu therapi celf.
Mewn cymunedau therapiwtig, ni ystyrir mai gan staff y mae'r ¡®holl iechyd da¡¯ nac ychwaith mai gan gleifion y mae'r ¡®holl salwch¡¯. Mae cymunedau therapiwtig yn darparu rhwydwaith o berthnasoedd agos. Gall hyn eich helpu i reoli emosiynau ac ymddygiadau anodd o fewn y rhwydwaith newydd a chadarnhaol hwn. Mae staff yn gweithio i drefnu a dal y gr?p ynghyd.
Defnyddir cymunedau therapiwtig yn eang mewn:
- lleoliadau preswyl yn y gymuned
- lleoliadau adsefydlu yn dilyn dibyniaeth
- carchardai.
Nidotherapi
Mae nidotherapi yn ceisio deall barn a dyheadau person a sut mae'n rhyngweithio ?'r byd. Mewn nidotherapi, gwneir newidiadau i'ch amgylchedd i helpu i drin eich 'symptomau'. Mae hyn yn wahanol i therap?au eraill, sy'n dechrau drwy ystyried sut rydych chi'n ymateb i'ch amgylchedd, yn hytrach na newid yr amgylchedd ei hun.
Hyfforddiant Systemau ar gyfer Rhagweld Emosiynau a Datrys Problemau (STEPPS)
Seicotherapi gr?p wythnosol dros gyfnod o 20 wythnos yw STEPPS. Mae wedi'i anelu at bobl sydd wedi cael diagnosis o BPD, ac mae'n seiliedig ar egwyddorion CBT. Pan fyddwch chi¡¯n cael therapi STEPPS rydych chi'n dysgu sgiliau i helpu i reoleiddio'ch emosiynau.
Pam mae therapi seicolegol yn ddefnyddiol i bobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth?
Mae therapi seicolegol yn helpu mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae rhai therap?au, fel DBT a STEPPS yn pwysleisio dysgu a datblygu sgiliau. Mae therap?au eraill yn rhoi mwy o bwyslais ar hunanymwybyddiaeth ac ystyr, megis therapi celf, MBT, therapi seicodynamig a therapi SFT.
Fodd bynnag, credir bod pob therapi seicolegol yn ddefnyddiol oherwydd gall bobl gael perthynas gyson, gydlynol, chwilgar a pharchus ?'u therapydd. Gall therapi seicolegol hefyd roi strategaethau ymdopi defnyddiol i chi.
Wedi i chi gwblhau cwrs o therapi, efallai y cewch eich annog i gymryd seibiant. Gall hyn roi cyfle i chi ymarfer rhai o'r sgiliau rydych chi wedi'u dysgu a'u defnyddio yn eich bywyd bob dydd. Mae'r cam hwn o ymgorffori sgiliau newydd yn un o gamau pwysicaf unrhyw therapi.
Pa heriau alla i eu hwynebu gyda therapi seicolegol?
Fel unrhyw driniaeth arall, gall therap?au seicolegol weithiau wneud i bobl deimlo'n waeth. Wrth i'ch perthynas ?'ch therapydd neu'ch gr?p ddatblygu byddwch yn dod i ddibynnu arnyn nhw ac i fod yn fregus yn eu cwmni. Os ydych chi wedi cael profiadau negyddol o fod yn fregus yng nghwmni pobl eraill, gall therapi deimlo'n frawychus iawn. Mae'n eithaf cyffredin i bobl fynd yn s?l neu wynebu argyfwng yn ystod therapi.
Dylai gwasanaethau ddeall hyn a byddant yn ceisio eich paratoi ar gyfer cael therapi. Gallant wneud trefniadau i osgoi argyfwng neu i'w reoli os bydd yn digwydd.
Mae llawer o therap?au seicolegol yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y therapydd a'r person sy'n cael therapi. Gall hyn wneud ymddygiad fel hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, neu gaethiwed yn waeth. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd therap?au eraill yn cael eu defnyddio i ddechrau er mwyn helpu i leihau'r ymddygiadau hyn.
A oes achosion pan na fydda i¡¯n gallu cael therapi seicolegol?
Mewn rhai achosion, efallai y bydd therapydd yn teimlo nad yw¡¯n briodol nac yn ddiogel i chi gael therapi seicolegol. Os bydd hyn yn digwydd dylai eich gwasanaeth barhau i weithio gyda chi i ddod o hyd i ffyrdd i'ch cefnogi a gwella ansawdd eich bywyd. Dylai hyn ddigwydd p'un a ydych chi'n debygol o allu cael therapi yn y dyfodol ai peidio. Os ydych chi'n anghytuno ?'r penderfyniad hwn, gallwch ofyn am ail farn.
Os oes angen therapydd sydd ? sgiliau penodol i gyd-fynd ?'ch anghenion, efallai y bydd yn rhaid i chi aros nes bod therapydd sydd ?'r sgiliau hynny ar gael.
Yn olaf, efallai y byddwch chi'n dewis peidio ? chael therapi seicolegol, neu efallai y byddwch chi'n ei gael ac yn gweld nad yw'n ddefnyddiol. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch chi'n dal i ddymuno archwilio dulliau gwahanol neu fathau eraill o therapi. Os nad yw un dull yn gweithio i chi, nid yw hynny'n golygu na fydd dull arall yn gweithio.
Pa therapi sy'n gweithio orau?
Yn anffodus, nid oes digon o ymchwil manwl o ansawdd uchel i therap?au ar gyfer pobl sydd ? diagnosis anhwylder personoliaeth. Dylai'r bobl sy'n eich trin chi feddwl am beth y gallai fod ei angen arnoch chi ar unrhyw adeg benodol. Dylent geisio addasu eich triniaeth i gyd-fynd ?'ch anghenion wrth i'ch amgylchiadau, eich profiadau a'ch heriau newid.
Mae astudiaeth ymchwil o nifer o wahanol dreialon clinigol wedi dangos:
- mai DBT yw'r therapi yr ymchwiliwyd iddo fwyaf, ac yna MBT
- bod DBT yn fwy effeithiol o ran lleihau hunan-niweidio a'i gwneud yn haws i rywun weithredu'n gymdeithasol ac yn seicolegol
- bod MBT yn fwy effeithiol o ran lleihau teimladau hunanladdol ac iselder
- Ni ddangosodd ymchwil a oedd unrhyw un driniaeth yn fwy tebygol na¡¯r llall o barhau i fod yn effeithiol am gyfnod hirach ar ?l i berson gwblhau¡¯r driniaeth.
Treulio amser yn yr ysbyty neu mewn gofal preswyl
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi dreulio amser yn yr ysbyty neu mewn lleoliad preswyl. Er enghraifft, os ydych chi wedi niweidio'ch hun neu os ydych chi'n peri risg i chi'ch hun neu i rywun arall.
Fodd bynnag, gall tynnu pobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth o'u rhwydweithiau cymorth gael effaith negyddol ar eu lles. Gall treulio amser mewn amgylcheddau sydd ddim yn caniat¨¢u i rywun ddefnyddio ei strategaethau ymdopi arferol hefyd olygu bod y strategaethau ymdopi hyn yn dwys¨¢u ac yn dod yn fwy peryglus. Oherwydd hyn, bydd timau gofal iechyd am eich helpu i:
- aros yn eich cymuned lle bynnag y bo modd
- aros yn yr ysbyty am gyn lleied o amser ? phosibl
- bod yn rhan o wneud penderfyniadau am eich gofal
- osgoi cael eich cadw dan y ddeddf iechyd meddwl lle bynnag y bo modd.
Meddyginiaeth
Nid yw ymchwil wedi dangos bod unrhyw feddyginiaeth ar gael i drin anhwylder personoliaeth. Fodd bynnag, os yw rhywun sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth hefyd yn profi problemau iechyd meddwl fel iselder neu orbryder, efallai y bydd yn cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn i helpu gyda hyn. Mae rhai pobl yn gweld meddyginiaeth yn ddefnyddiol, ond i bobl eraill nid yw hyn yn wir.
Mae canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn dweud y gall meddyginiaethau gwrthseicotig gael eu defnyddio mewn argyfwng yn y tymor byr ar gyfer pobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth.
Gwneud penderfyniadau ynghylch meddyginiaeth
Os oes gennych chi ddiagnosis o anhwylder personoliaeth, dylech allu trafod ?'ch meddyg a yw'r feddyginiaeth y mae'n ei hawgrymu yn addas i chi. Dylai ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych chi. Mae pob meddyginiaeth yn achosi sgil-effeithiau, a dylid egluro¡¯r rhain i chi cyn i chi ddechrau eu cymryd.
Os ydych chi eisiau rhoi'r gorau i gymryd unrhyw feddyginiaeth, mae'n bwysig siarad ?'r bobl sy'n eich trin yn gyntaf. Gall rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth yn sydyn fod yn beryglus. Gall eich t?m clinigol eich helpu i roi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth neu i¡¯w newid yn ddiogel, ac mewn ffordd sy'n lleihau unrhyw risgiau posibl.
Gofal cyson
Dangoswyd bod profi perthnasoedd cyson ?'r bobl sy'n gofalu amdanoch chi yn cael effaith gadarnhaol ar bobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth. Nid yw hyn yn golygu bod y perthnasoedd yn hawdd. Pan fyddwch chi¡¯n cael therapi efallai y bydd yn rhaid i chi archwilio'r meddyliau a'r teimladau anodd a arweiniodd at geisio cymorth.
Weithiau mae pobl yn disgrifio therapi fel ¡®man dewr¡¯ yn hytrach na fel ¡®man diogel¡¯.
Bydd gwasanaethau yn aml yn ceisio creu cysondeb trwy:
- gynnal apwyntiadau yn yr un lle
- cyfathrebu'n glir ? chi ynghylch pryd fydd eich apwyntiadau
- gwneud yn si?r eich bod yn gwybod sut i gysylltu ?'r person sy'n arwain eich gofal rhwng apwyntiadau.
Gall datblygu perthnasoedd cryf ?'r bobl sy'n darparu eich gofal deimlo'n heriol. Mae¡¯n ddealladwy y gallai gymryd amser i chi ddod i adnabod ac i ymddiried yn y bobl sy¡¯n eich trin. Os ydych chi'n cael anawsterau, bydd staff eisiau clywed amdanyn nhw. Ceisiwch archwilio'r anawsterau hyn gyda'ch clinigydd.
Therapi galwedigaethol
Gall pobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth gael budd o gymorth therapyddion galwedigaethol.
Gall therapydd galwedigaethol eich helpu os ydych chi wedi cael eich rhyddhau o:
- ysbyty
- lleoliad adsefydlu cyffuriau neu alcohol
- carchar.
Gall eich helpu i:
- ddatblygu trefn arferol
- cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a galwedigaethol
- dychwelyd i'r gwaith neu eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi'n well yn y gwaith
- rheoli amgylchedd eich cartref.
Cefnogaeth gan gymheiriaid
Mae cymorth gan gymheiriaid yn golygu bod rhywun sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth yn cynnig cymorth i rywun arall sydd ?¡¯r diagnosis hwnnw. Dangoswyd bod cefnogaeth gan gymheiriaid yn helpu pobl i deimlo'n gysylltiedig, yn ddilys ac yn obeithiol.
Gellir darparu cefnogaeth gan gymheiriaid yn anffurfiol, neu fel rhan o'r gwasanaeth sy¡¯n eich trin. Caiff ei darparu yn unigol neu mewn gr?p. Mae grwpiau¡¯n gweithio¡¯n well os bydd rhywun yn gweithredu fel ¡®hwylusydd¡¯ i oruchwylio a chefnogi sgyrsiau defnyddiol.
Cefnogaeth gan deulu a ffrindiau
Gall llawer o bobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth fyw bywydau llawn gyda chefnogaeth eu teulu a'u ffrindiau. Gall y gefnogaeth hon fod yn:
- emosiynol - er enghraifft, cael rhywun i siarad ag e neu i ymddiried ynddo
- ymarferol - er enghraifft, help gyda threfnu biliau neu wneud ceisiadau am swyddi.
Gall fod yn ddefnyddiol i rywun sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth rannu ei deimladau ? phobl sy¡¯n bwysig iddo ac y mae'n ymddiried ynddyn nhw. Gall ffrindiau a theulu gefnogi rhywun yn well os ydyn nhw'n gwybod:
- pa bethau sy'n heriol i'r person hwnnw
Mae camsyniad nad yw pobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth yn gwella. Mewn gwirionedd, mae rhai astudiaethau wedi dangos bod rhwng 50 a 70% o bobl sydd ? diagnosis o BPD yn gwella yn y tymor hir. Mae astudiaethau eraill wedi dangos y gall pobl wella wrth iddyn nhw fynd yn h?n.
Beth fydd yn digwydd os na fydd rhywun yn cael cymorth?
Mae'n hynod bwysig bod pobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth yn cael cefnogaeth ac yn cael eu trin ? dealltwriaeth. I bobl sydd ddim yn cael cymorth, gall bywyd bob dydd barhau i fod yn heriol. Gall fod yn anodd iddyn nhw gael perthnasoedd boddhaus, cefnogol.
Mae pobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth mewn mwy o berygl o farw drwy hunanladdiad. Mae gan lawer o bobl sy'n cael eu derbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys oherwydd hunan-niweidio ddiagnosis o anhwylder personoliaeth.
Mae pobl sy'n feichiog ac sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth hefyd yn wynebu risg uwch o iselder ?l-enedigol a gorbryder ?l-enedigol.
Mae pobl sydd wedi cael diagnosis o BPD neu anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol ac sydd mewn carchardai neu ysbytai diogel yn fwy tebygol o niweidio eraill.
Fodd bynnag, gyda¡¯r cymorth a¡¯r driniaeth cywir, mae pobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth yn gallu:
- cael bywyd cymdeithasol boddhaus
- cael gyrfa a hob?au
- teimlo'n hapus a bodlon ynddyn nhw'u hunain.
Bydd rhai pobl yn gwella dros amser heb driniaeth. Gall gweithgareddau ystyrlon sy'n rhoi boddhad alluogi pobl i wella dros amser neu wrth iddyn nhw fynd yn h?n. Fodd bynnag, mae¡¯n dal yn bwysig cael cymorth os ydych chi¡¯n cael trafferthion.
Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i gynnal eich hun a chadw mor iach ? phosibl. Mae¡¯r GIG yn awgrymu pum cam sydd, yn ?l tystiolaeth, yn gallu gwella iechyd meddwl a¡¯ch lles.
Rydyn ni¡¯n gwerthfawrogi y gall rhai o¡¯r pethau hyn deimlo¡¯n anodd iawn i¡¯w gwneud. Mae cael ffrind dibynadwy, aelod o¡¯r teulu neu weithiwr proffesiynol i¡¯ch cefnogi yn gallu ei gwneud hi¡¯n haws ymrwymo i'r camau defnyddiol hyn.
1. Cysylltu ? phobl eraill
Os ydych chi'n cael trafferth cysylltu ag eraill, gallech geisio ymuno ? grwpiau neu ddosbarthiadau lleol sy'n gysylltiedig ? phethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw. Gall hyn eich helpu i gyfarfod pobl o'r un anian.
2. Bod yn gorfforol actif
Chwiliwch am fath o ymarfer corff rydych chi'n ei fwynhau, a cheisiwch ei wneud yn rheolaidd. Dylech geisio gwneud o leiaf awr y dydd o ymarfer corff cymedrol, fel mynd am dro, ac awr o ymarfer egn?ol dair gwaith yr wythnos, fel rhedeg neu nofio.
3. Dysgu sgiliau newydd
Dylai hyn fod yn rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau neu y mae gennych chi ddiddordeb ynddo. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys coginio pryd newydd o fwyd, dysgu gwau neu grosio, peintio llun neu ysgrifennu stori fer. Gallech chi hefyd ymuno ? chlwb neu ddosbarth yn eich ardal leol.
4. Gwneud pethau i bobl eraill
Mae ymchwil yn dangos y gall gwneud pethau i bobl eraill eich helpu i deimlo'n gadarnhaol amdanoch chi'ch hun ac i gysylltu ag eraill. Gallech chi wneud rhywbeth mor syml ? dweud wrth ffrind beth rydych chi'n ei hoffi amdano neu amdani. Neu gallech chi wirfoddoli yn eich cymuned leol.
5. Ymwybyddiaeth ofalgar
Mae'r rhain yn ymarferion syml rhad ac am ddim y gallwch chi eu gwneud i gysylltu ?'r byd o'ch cwmpas. Un enghraifft yw cerdded o gwmpas y tu allan a chwilio am a chyfrif popeth sydd o liw arbennig. Mae rhagor o wybodaeth am ymwybyddiaeth ofalgar .
Yn olaf, os ydych chi'n cael trafferthion tai neu arian, edrychwch ar ein hadnodd ar fudd-daliadau, cymorth ariannol a chyngor ar ddyledion. Mae'r adnodd hwn yn egluro pa fathau o fudd-daliadau y gallech chi fod ? hawl iddyn nhw, a sut i'w hawlio. Os oes therapydd galwedigaethol yn eich t?m iechyd meddwl, efallai y bydd yn gallu eich helpu gyda hyn.
Mae cefnogi rhywun sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth yn gallu bod yn heriol. Gall fod yn anodd peidio ? chymryd y ffordd y maen nhw'n ymddwyn yn bersonol a theimlo eu bod nhw'n ¡®cymryd pethau allan arnoch chi¡¯.
Mae gan lawer o bobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth gyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol eraill hefyd. Gall y rhain ddod ?'u heriau ychwanegol a'u hanghenion gofal eu hunain. Fodd bynnag, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i gynnal eich hun a'r person rydych chi'n ei adnabod:
- Gwneud penderfyniadau ar y cyd ¨C Os ydych chi'n ymwneud ? gofal rhywun gall fod yn anodd gwybod faint y dylech chi ei annog i ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ofal, a faint y dylech chi ei wneud eich hun. Ceisiwch weithio gyda'ch gilydd i benderfynu beth sy'n gweithio orau i'r ddau ohonoch chi. Galluogwch y person i chwarae rhan yn ei ofal mewn ffyrdd sydd o fudd i¡¯r ddau ohonoch chi.
- Gweld y person cyfan ¨C Gall fod yn anodd dod o hyd i¡¯r cydbwysedd rhwng gwybod bod salwch meddwl rhywun yn rhan bwysig ohono, a chofio bod unigolyn yn fwy na¡¯i salwch meddwl. Mae'n iawn bod yn rhwystredig neu deimlo bod pethau am rywun rydych chi'n ei garu yn heriol neu'n peri gofid. Dewch o hyd i rywun y gallwch chi fod yn gwbl onest ag e neu hi a siaradwch am eich teimladau.
- Deall anhwylder personoliaeth ¨C Mae anhwylder personoliaeth yn ddiagnosis cymhleth. Mae llawer o gamddealltwriaeth a stigma yn ei gylch. Ceisiwch ddysgu mwy amdano o ffynonellau dibynadwy, a chan bobl eraill sydd ? phrofiad o anhwylder personoliaeth. Gall hyn eich helpu i ddeall mwy am y person rydych chi'n ei adnabod.
- Colegau Adfer ¨C Mae¡¯r rhain wedi¡¯u lleoli mewn ymddiriedolaethau GIG ledled y DU. Maen nhw'n darparu amgylchedd dysgu i bobl sydd ? diddordeb mewn, neu sy'n wynebu heriau personol o ran iechyd meddwl. Mae cyrsiau'n canolbwyntio ar lwyddiant, strategaeth a meithrin sgiliau, yn hytrach nag amlygu problemau neu fethiannau. Mae cyrsiau ar gael i ofalwyr, a chaiff cyrsiau eu creu ar y cyd gyda chleifion a gofalwyr.
- Therapi teulu ¨C Mae teuluoedd, ar ba ffurf bynnag, yn aml yn rhan bwysig o fywydau pobl. Gall therapi teulu helpu trwy edrych ar y perthnasoedd yn eich teulu a'ch cefnogi chi i gyd i ddatblygu strategaethau ymdopi.
- Hyfforddiant Fframwaith Gwybodaeth a Dealltwriaeth (KUF) ¨C Mae'r hyfforddiant hwn yn cael ei greu a'i ddarparu gan weithwyr proffesiynol a phobl sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth. Mae'n dysgu dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a ffyrdd o gyfathrebu'n dda. Siaradwch ?'r t?m gofal iechyd i weld a oes hyfforddiant KUF ar gael lle rydych chi'n byw.
¡°Nid eich gwaith chi fel gofalwr yw ¡®trwsio¡¯ rhywun neu wneud ei fywyd yn gwbl ddiogel. Mae¡¯n ymwneud yn fwy ? cherdded ochr yn ochr ? rhywun a bod yno iddo neu iddi. Dw i'n meddwl bod hynny¡¯n fagl dw i'n gweld llawer o ofalwyr yn syrthio iddi.¡± Hameed
Os ydych chi'n ofalwr, mae rhai pethau ychwanegol a allai fod o gymorth:
- Asesiad gofalwr ¨C Os ydych chi'n ofalwr i rywun sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth, mae gennych chi hawl i asesiad gofalwr am ddim. Bydd hyn yn helpu i weithio allan beth allai wneud eich bywyd chi yn haws. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gael asesiad ar y GIG.
- Grwpiau cymorth ¨C Ymunwch ? gr?p cymorth lleol i ofalwyr lle gallwch chi gyfarfod a siarad ? phobl sydd ? phrofiadau tebyg i chi.
- Cymryd seibiannau ¨C Os ydych chi¡¯n ofalwr llawn-amser neu ran-amser i rywun sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth, mae¡¯n bwysig cymryd amser i chi'ch hun os gallwch chi. Gallai hynny olygu gofyn i ffrind neu aelod o¡¯r teulu gamu i mewn neu ddefnyddio gwasanaeth proffesiynol. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr wybodaeth ddefnyddiol ar gael .
Dysgwch fwy am fod yn ofalwr a¡¯r cymorth y gallech chi fod ? hawl iddo yn ein hadnodd i ofalwyr.
¡°Mae byw gyda rhywun a bod yn ofalwr i rywun sydd ag anhwylder personoliaeth yn achosi llawer o straen ac weithiau fel gofalwr rydych chi'n dechrau teimlo eich bod chi'n datblygu rhai o¡¯r symptomau hynny neu¡¯n dechrau gweld eu byd nhw fel eich norm chi.¡± Hameed
Gwybodaeth am anhwylder personoliaeth
- GIG ¨C Gwybodaeth gan y GIG am anhwylder personoliaeth.
- Mind ¨C Gwybodaeth gan yr elusen iechyd meddwl Mind ar anhwylder personoliaeth.
- Rethink Mental Illness ¨C Gwybodaeth gan yr elusen Rethink Mental Illness ar anhwylder personoliaeth.
Canllawiau triniaeth
Mae'r ddau ganllaw hyn gan NICE ar gyfer y cyhoedd yn egluro'r driniaeth y dylai pobl sydd ? diagnosis o BPD neu anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol ei chael. Maen nhw hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, megis cwestiynau y gallwch chi eu gofyn i'ch t?m gofal iechyd pan fyddwch chi'n cael diagnosis, a chwestiynau y gall gofalwyr eu gofyn i wasanaethau iechyd.
Sefydliadau anhwylderau personoliaeth
- - Mae Emergence yn sefydliad sy¡¯n cael ei arwain gan ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae'n cefnogi pawb y mae anhwylder personoliaeth yn effeithio arnyn nhw gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, teulu a ffrindiau a gweithwyr proffesiynol.
Gwybodaeth i ofalwyr
- , Mind ¨C Gwybodaeth i ffrindiau a theulu sydd eisiau cefnogi rhywun sydd ? diagnosis o anhwylder personoliaeth.
- , Mind ¨C Gwybodaeth i bobl sy¡¯n gofalu am rywun sydd ? phroblem iechyd meddwl.
- , Anna Freud ¨C Gwybodaeth gan Ganolfan Genedlaethol Plant a Theuluoedd Anna Freud am raglen hyfforddi dan arweiniad gofalwyr ar gyfer ffrindiau a theulu pobl sydd wedi cael diagnosis o BPD.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu ?¡¯r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Ãâ·ÑºÚÁÏÍø). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Awduron arbenigol: Dr Oliver Dale a Dr Pamela Peters
Arbenigwyr trwy brofiad: Ellie Wildbore, Hameed Khan, Marsha McAdam
Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (Aor 2025)